English

Gwasanaeth Sul y Cofio


Fel bob amser, mae'n fraint bod yn rhan o Ddydd Sul y Cofio yn Llangefni a'r digwyddiadau coffáu. Roedd nifer o aelodau'r band hefyd allan yn y gymuned yn chwarae 'The Last Post' mewn gwahanol leoliadau, gan gynnwys Porthaethwy.

Yn seremoni heddiw, perfformiodd ein Cyfarwyddwr Cerdd, Chris Williams, 'The Last Post' fel rhan o'r Gwasanaeth Coffa yn Llangefni – y 25ain flwyddyn yn olynol iddo wneud hynny (gan gynnwys yn 2020, pan gynhaliwyd gwasanaeth gyda phellter cymdeithasol!)

Band Pres Porthaethwy