Amdanom
Llangefni yw tref fwyaf ond un Ynys Môn gydag oddeutu 5,000 o bobl yn byw yno.
Yn hanesyddol, roedd Llangefni yn fan gorffwys pwysig ar yr hen ffordd i borthladd Caergybi ac ymlaen wedyn i Iwerddon. Cychwynnodd llinach y Tuduriaid yn ardal Llangefni ac mae Eglwys hynafol Sant Cyngar yn dyddio yn ôl i’r Oesoedd Tywyll.
Roedd lleoliad canolog y dref yn ei gwneud yn lle delfrydol i ffermwyr werthu da byw a chynnyrch. Erbyn heddiw mae ein tref farchnad hanesyddol yn parhau i fod yn lle gwych i siopa, gyda’r enwau mawr, siopau bach annibynnol a siopau coffi, ynghyd â’r marchnadoedd a gynhelir ddwywaith yr wythnos ac sy’n mynd o nerth i nerth.
Mae Llangefni yn ganolfan berffaith i archwilio prydferthwch Ynys Môn ac yn gyfleus iawn ar gyfer gweld yr holl gyfoeth sydd gan yr Ynys i’w gynnig; o atyniadau gwych a lleoedd arbennig i aros ynddynt, i gefn gwlad bryniog, traethau tywodlyd a llwybr troed o gwmpas yr arfordir cyfan. Ond mae’n werth ymweld â Llangefni fel tref ynddi ei hun hefyd.
Mae’r dref yn gartref i amgueddfa a chanolfan gelfyddydol Oriel Ynys Môn sy’n ymfalchïo yn y casgliad mwyaf yn y byd o weithiau gan yr arlunydd lleol Syr Kyffin Williams ac arddangosfa barhaol o waith yr arlunydd bywyd gwyllt nodedig Charles Tunnicliffe. Mae golygfeydd gwych o’r dref i bob cyfeiriad a mynediad i lawer o deithiau cerdded hyfryd trwy’r cefn gwlad a choetiroedd – gyda’r cyfan oll yn disgwyl amdanoch.
Mae prif gyfrifoldebau’r Cyngor yn cynnwys:
Mynwent y Dref
Sefydlwyd mynwent y dref yn 1864 yn Lôn Newydd. Ar y cychwyn, roedd y fynwent mewn dwy ran – cysegredig ac anghysegredig gyda dau gapel ar wahân. Heddiw, mae’r fynwent wedi cael ei hymestyn a defnyddir un o’r capeli fel gweithdy i staff.
Mr. William Roberts yw Prif Dirmon y Fynwent a chaiff gymorth gan ei gydweithwyr Berwyn Jones a Raymond Jones. Yn 2004 enillodd y fynwent Wobr Cymru am y Fynwent Orau yn yr Ardal. Mae staff y fynwent yn cymryd balchder mawr ynddi a gwerthfawrogir hyn gan drigolion y dref.
Caeau Chwarae
Mae gan y Cyngor 5 cae chwarae – Maes Hyfryd, Lon Newydd, Corn Hir, Plas Tudur a Rhosmeirch ynghyd a Pharc Sglefrio ger Canolfan Hamdden Plas Arthur.
Clwb Bowlio / Tennis a Llecyn Chwarae – Lôn Las
Mae’r Cyngor wedi cymryd drosodd y cyfrifoldeb am y Clwb Bowlio a’r Clwb Tennis ar Lôn Las. Adnewyddwyd y safle yn ddiweddar dan y Cynllun Adfywio’r Tair Tref.
Mae ar y safle lawnt fowlio, cwrt tennis amlbwrpas a llecyn gemau arall ynghyd â llecyn chwarae gydag unedau chwarae i blant o dan 11 oed.
Y safle hwn oedd cartref Clwb Bowlio Llangefni oedd wedi bod yn defnyddio’r safle am dros 60 o flynyddoedd. Roedd y clwb yn cystadlu yng Nghynghrair Bowlio Ynys Môn a byddant yn annog plant i ymddiddori yn y gamp drwy ddysgu sgiliau newydd sy’n gysylltiedig â hi.
Cae Chwarae Lôn Newydd
Defnyddir y cae hwn gan adain iau Clwb Pêl-droed Llangefni. Mae’r adnoddau’n cynnwys tŷ clwb ac ynddo ystafelloedd newid gyda chawodydd ar gyfer y timau ynghyd ag ystafell i’r canolwr. Hefyd mae yma gegin lle gall gwirfoddolwyr y clwb baratoi a darparu lluniaeth ysgafn i gefnogwyr ar y dyddiau hynny y cynhelir gemau.
Cloc y Dref
Codwyd cloc y dref yn 1902 gan deulu Tre Ysgawen er cof am George Pritchard Rayner fu farw yn y Rhyfel yn erbyn y Boeriaid yn Ne Affrica ym mis Gorffennaf 1900.
Cysgodfeydd Bws
Lleolir Cysgodfeydd Bws yn strategol yn y dref ar y llwybrau bysus sy’n cysylltu gyda’r Ynys gyfan a’r tu draw iddi. Gwneir gwaith cynnal a chadw rheolaidd gan gynnwys glanhau neu adnewyddu panelau a ddifrodir.
Meinciau Stryd
Lleolir y rhain mewn amryfal lefydd yn y dref a chânt eu gwerthfawrogi gan bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd. Gwneir gwaith cynnal a chadw arnynt yn rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod mewn cyflwr da.
Yr Afon Cefni a’r Amgylchedd o’i chwmpa
O ganlyniad i’r fid lwyddiannus a gyflwynwyd ar y cyd gan y Cyngor Tref a Cwmni Tref yn 2004 am Gyllid Ewropeaidd i wella’r Afon Cefni ar hyd ochr maes parcio Neuadd y Dref, gwnaed gwaith gwella amgylcheddol helaeth sydd wedi arwain at greu llwybr troed gyda seddau ar gyfer trigolion ac ymwelwyr.




